Am Tori
Bywgraffiad Tori
Tori James yw'r Gymraes gyntaf i ddringo Mynydd Everest. Dringodd Tori i gopa Everest yn 2007 ar ôl dringo chweched mynydd ucha’r byd. Cafodd rhaglen ddogfen y BBC, 'On Top of the World’, ei chynhyrchu drwy ddefnyddio fideo a ffilmiwyd ac a gyfarwyddwyd gan Tori wrth iddi ddringo Everest.
Ganwyd Tori yn Hwlffordd yn Sir Benfro ac fe’i magwyd ar fferm. Cafodd ei blas cyntaf o antur a gwersylla trwy Girlguiding. Dechreuodd ar ei Gwobr Dug Caeredin pan oedd yn 14 oed, ac enillodd ei Gwobr Aur. Aeth hi i brifysgol Royal Holloway i astudio daearyddiaeth a wedyn dechreuodd Tori weithio gyda'r 'British Exploring Society' yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn Llundain.
Yn ystod ei chyfnod yno ymunodd â thîm a oedd yn benderfynol o gyrraedd llyfrau record y byd. Ym mis Mai 2005 y 'Pink Lady PoleCats' oedd y tîm merched cyntaf erioed i gwblhau 'Her y Pegwn', sef ras lethol dros 360 milltir i Begwn Magnetig y Gogledd. Gorffennodd y tîm yn y 6ed safle o blith 16 o dimau, a hynny ar ôl teithio drwy diriogaeth yr arth wen lle roedd y tymheredd cyn ised â -40 gradd.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 24ain Mai 2007, dringodd Tori i gopa Mynydd Everest (8,848 metr/29,029 troedfedd). Hi oedd y ferch ieuengaf o Brydain ar y pryd (25 oed) i gyrraedd y copa, a'r ferch gyntaf o Gymru i wneud hynny.
Ers Everest, mae Tori wedi cwblhau her Beeline Britain, sef ceufadu, beicio a cherdded 1,100 km o Land’s End i John O’Groats mewn llinell syth. Roedd y tîm yn padlo mewn caiac o Land’s End i Sir Benfo, Sir Benfro i Ynys Mon, Ynys Mon i Ynys Manaw ac Ynys Manaw i dde’r Alban. Roedd yn her feddyliol enfawr.
Yn 2025, roedd hi’n 50 mlynedd ers i’r fenyw gyntaf yn y byd, Junko Tabei goncro Everest ac i nodi hynny, roedd Tori a 14 o ferched eraill wedi dringo Copa Yala, sy’n 5,550m o uchder yn Nepal.
Mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Ynghyd â'i bywyd anturiaethol, mae Tori'n fam, yn siaradwr cyhoeddus, yn bodlediwr ac mae hi'n dysgu Cymraeg.
Dysgu Cymraeg
Mae Tori wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.
Dechreuodd Tori ddysgu Cymraeg trwy gwrs byr ar ôl i'w hail blentyn gael ei eni yn 2020. Clwb Cwtsh, cwrs blasu Cymraeg llawn hwyl i rieni sydd eisau siarad mwy o Gymraeg gyda’u plant. Ei phlant yw y brif ysbrydoliaeth dros ddysgu Cymraeg.
Mae Tori wedi cwblhau Lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd trwy gyrsiau gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. Mae hi'n defnyddio'r Gymraeg gartref gyda'i theulu, yn ei chyflwyniadau, yn y cyfryngau ac yn ei gwaith gwirfoddol.
Mae Tori yn falch iawn o fod yn llysgennad i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda’r nod o ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
Cyfryngau
Gwyliwch Tori yn siarad â Llinos Lee ar S4C Heno
Watch Tori talking to Llinos Lee on BBC iPlayer (English subtitles available).
Darllenwch yr erthygl yn Hwyl Hr Haf neu y llyfr Genod Gwych a Merched Medrus neu ar Cymru Fyw
Podlediad First Females
Yn ogystal â hybu bod allan yn yr awyr agored, ac arddel ei Chymreictod, mae Tori hefyd yn gweld pwysigrwydd mawr mewn dathlu llwyddiannau menywod yn y byd mynydda. Yn ei phodlediad hi, First Females, mae hi’n siarad efo menywod a oedd y cyntaf i gyrraedd copa Everest o wahanol wledydd, ac adrodd y stori o beth roedd hi'n olygu iddyn nhw i gyflawni'r gamp yma.
BBC Radio Cymru
Gwrandewch ar Tori yn siarad ag Aled Hughes am Everest, y Gymraeg a’i phodlediad First Females ar BBC Radio Cymru.
“Mae dysgu iaith fel dringo Eferest - mae’n cymryd amser, mae angen amynedd, bod yn barod i fethu a gwneud camgymeriadau. Mae’n rhaid i chi gamu y tu allan i’ch llwybr cyfforddus.”
"Learning a language is like climbing Everest - it takes time, it requires patience, you have to be prepared to make mistakes and to step outside of your comfort zone."
11 Tachwedd 2025
Siarad Ysbrydoledig
Mae Tori James yn rhannu ei phrofiadau o gyrraedd y brig a’r hyn a ddysgodd ar y ffordd. Gan ddefnyddio ei hanesion o fynydda uchel a heriau bywyd bob dydd, mae Tori yn egluro pam mae’n bwysig camu y tu allan i’n parth cysur i dyfu fel person, bod yn gryf, ac er lles. Trwy rannu straeon diddorol a syniadau ymarferol, mae hi’n dangos sut y gall derbyn her wneud ein bywydau proffesiynol a phersonol yn well. Mae hi’n siarad am dimau perfformiad uchel, risg, meddylfryd ac arweinyddiaeth. Hefyd, mae Tori yn dangos sut y gall natur, antur, a pheidio â bod ofn ein helpu ni i ailosod, adfywio, a darganfod ein potensial.
Mae Tori yn gweithio gyda busnesau, ysgolion, colegau a phrifysgolion. Cysylltwch am ragor o wybodaeth
Gwobrau
Cafodd Tori ei sefydlu'n swyddogol yn Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru yn 2025.